Session 11: Story

Mae Aled a Hugh yn aelodau o dîm rygbi’r pentref

        Aled and Hugh are members of the village rugby team

Maen nhw`n cadw`n heini trwy hyfforddi bob wythnos

         They keep fit by training every week

Un diwrnod, roedd Aled yn darllen papur newydd a gwelodd hysbyseb gan gwmni teledu

         One day, Aled was reading a newspaper and saw an advertisement by a television company

Roedden nhw eisiau timau o ddau gystadleuydd ar gyfer sioe gêm yn seiliedig ar hyfforddiant y fyddin

         They wanted teams of two competitors for a game show based on army training

Byddai`n rhaid i`r timau rasio ar draws ardal anghysbell yng nghanol Cymru, gan gyflawni heriau ar hyd y ffordd

         The teams would have to race across a remote area of mid Wales, carrying out challenges along the way

`Fe allwn ni wneud hyn, Hugh`, meddai Aled yn y dafarn y noson honno

         `We can do this, Hugh`, said Aled in the pub that evening

Fe wnaethant ymgeisio, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach ffeindiodd eu hunain yn yr hen blasty a oedd yn bencadlys i`r criw ffilmio

         They applied, and a few months later found themselves at the old mansion which was the headquarters for the film crew

`Byddwch yn cael eich gollwng ar ben mynydd, ac wedyn dilynwch y llwybr a ddangosir ar eich mapiau`

         `You will be dropped on a mountain top, then follow the route shown on your maps`

`Nid ar barasiwt!` meddai un cystadleuydd

         `Not by parachute!` said one competitor

`Na, mae gennyn ni hofrennydd`

         `No, we have a helicopter`

Aled a Hugh oedd yr ail o`r pedwar tîm i gael eu cludo i`r man cychwyn

         Aled and Hugh were the second of the four teams to be taken to the start point

Fe ddaethon nhw o hyd i`w ffordd i lawr o`r mynydd i`r rheolfan cyntaf yn y goedwig

         They found their way down from the mountain to the first check point in the forest

Yma roedd yn rhaid iddynt ddringo ysgol raff i ben coeden ofnadwy o uchel, yna croesi pont raff i goeden arall

         Here they had to climb a rope ladder to the top of a horribly high tree, then cross a rope bridge to another tree

`Wel, roedd hynny`n ddychrynllyd` meddai Aled

         `Well, that was terrifying` said Aled

Fe wnaethant redeg ymlaen trwy`r goedwig i gyrraedd yr ail reolfan wrth lyn

         They ran on through the forest to reach the second check point at a lake

Yma roedd yn rhaid iddyn nhw adeiladu rafft allan o ddrymiau olew a phadlo ar draws y llyn

         Here they had to build a raft out of oil drums and paddle across the lake

Fe wnaethant barhau trwy`r goedwig, ond dechreuodd lawio`n drwm a daethon nhw`n flinedig ac yn araf

         They continued through the forest, but it began to rain heavily and they became tired and slow

O`r diwedd fe gyrhaeddon nhw`r trydydd rheolfan mewn hen wersyll y fyddin

         They finally reached the third checkpoint at an old army camp

Yna bu’n rhaid iddynt ddod o hyd i’w ffordd trwy ddrysfa o dwneli tanddaearol a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd

         They then had to find their way through a maze of underground tunnels which had been built during the Second World War

Nawr roedd angen iddyn nhw gyrraedd y diwedd yn y plasty

         They now needed to reach the finish at the mansion

Pan gyrhaeddon nhw, gwelon nhw fod y timau eraill yno eisoes

         When they arrived, they saw that the other teams were already there

`Rwy`n dyfalu na wnaethon ni ennill`, meddai Aled

         `I guess that we didn`t win`, said Aled

`Na, ond ni fydd angen i ni wneud unrhyw hyfforddiant ffitrwydd cyn gêm rygbi y penwythnos nesaf`

         `No, but we won`t need to do any fitness training before next weekend`s rugby game`